Cwestiynau Cyffredin
Yn syml, nodwch y cod unigryw a rhowch eich cyfeiriad e-bost er mwyn derbyn eich taleb 2 am bris 1 i’ch mewnflwch. Yna, yr oll sydd angen ei wneud yw argraffu neu ddangos y daleb ar eich ffôn, ynghyd â’ch pecyn menyn / gorchudd sydd â’r cod unigryw, pan fyddwch yn prynu tocyn mynediad i’r safle Cadw neu English Heritage o’ch dewis.
Ewch i wefan Cadw ac English Heritage am fanylion ynglŷn â pha safleoedd gellir ymweld â nhw er mwyn prynu’r cynnig 2 docyn am bris 1. Mae rhai o’u safleoedd am ddim i ymweld â nhw yn barod, felly ni chant eu cynnwys ar y rhestr. Ewch i’w gwefan am fwy o fanylion:
www.english-heritage.org.uk/countrylife
cadw.gov.wales/daysout/free-access-schemes/countrylifepromotion
Mae’r cynnig yn cynnwys tocynnau dydd, ac eithrio tocynnau teulu.
Ceisiwch fewnbynnu’r cod eto, gan sicrhau nad oes unrhyw fylchau rhwng y nodau a bod y prif lythrennau/llythrennau bach yn cyfateb. Os ydi’r broblem yn parhau, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
Mae gennych hyd at 31 Mawrth 2021 i hawlio’ch taleb 2 am bris 1 mewn safleoedd English Heritage a Cadw penodol.
Rydym yn argymell eich bod yn edrych yn eich ffolderau spam / junk gan fod negeseuon e-byst yn cyrraedd yma yn lle eich mewnflwch arferol. Os nad ydych wedi derbyn yr e-bost wedi cyfnod o amser yna cysylltwch â’n tîm Gofal Defnyddwyr.
Yn anffodus, ni ellir defnyddio’r un daleb fwy nag unwaith. Fodd bynnag, mae croeso i chi brynu cynnyrch Country Life arall a defnyddio’r cod unigryw newydd hwn i hawlio taleb arall.